Aed y nos derfysglyd heibio, Doed y boreu cyn bo hir, Pan y caffo'm henaid wledda Yn y nefol Ganaan bur; Gyda myrddiwn, &c. O ffyddloniaid anwyl nef. Yno y dymunwn drigo, Wrth afonydd loywon llawn, O risialaidd ddwr y bywyd, Sydd yn llifo'n hyfryd iawn; Lle cawn yfed, &c. Hyfryd gariad byth mewn hedd.Cas. o dros 2000 o Hymnau (Samuel Roberts) 1841 Tôn [878747]: Ephesus (Joachim Neander 1650-80) gwelir: Ar ddisgwylfa uchel gribog Rwy'n dy garu er nas gwelais Y mae gwedd dy wyneb grasol |
Let the tumultuous night pass, Let the morning come before long, When my soul may feast In the pure, heavenly Canaan; With myriads, &c. Of the faithful beloved of heaven. There I would ask to dwell, By clear, full rivers, O the crystal water of life, Which is flowing very delightfully; Where I may get to drink, &c. Delightful love forever in peace.tr. 2016 Richard B Gillion |
|